Calon Lân

Calon Lân lyrics

Year2004
Duration2:43
Original languageCY
Views6.7K
Lyrics coordinates

Original lyrics

CY
Translation not available yet. Showing the original lyrics.
18
Nid wy'n gofyn bywyd moethus Aur y byd na'i berlau mân Gofyn 'rwyf am galon hapus Calon onest, calon lân Calon lân yn llawn daioni Tecach yw na'r lili dlos Dim ond calon lân all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos Pe dymunwn olud bydol Chwim adenydd iddo sydd Golud calon lân, rinweddo Yn dwyn bythol elw fydd Calon lân yn llawn daioni Tecach yw na'r lili dlos Dim ond calon lân all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos Hwyr a bore fy nymuniad Gwyd i'r nef ar adain cân Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad Roddi i mi galon lân Calon lân yn llawn daioni Tecach yw na'r lili dlos Dim ond calon lân all ganu Canu'r dydd a chanu'r nos.